Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mai 2015
Amser: 09.02 -
11.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2733
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Steve Clarke, Welsh Tenants Federation Mike Halloran, Wales & West Housing David Lloyd, TPAS Cymru Claire Maimone, Neath Port Talbot Homes Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Porter, Wales & West Housing Linda Whittaker, Neath Port Talbot Homes |
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Nick Selwyn (Cynghorwr Arbenigol) Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Clercod gael eglurhad pellach gan Gyngor Powys a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar nifer y swyddi gwag a pha adrannau oedd â'r swyddi 'anodd eu llenwi'.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru a David Lloyd, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.
3.2 Cytunodd Steve Clarke i anfon ffigurau am nifer y tenantiaid dan 21 oed sydd ar hyn o bryd yn meddiannu eiddo un a dwy ystafell wely.
3.3 Pan oedd yr Aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd i Steve Clarke ddarparu nodyn ynglŷn â pham ei fod yn credu y dylai gweinyddu budd-dal tai gael ei ddatganoli.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Linda Whittaker, Prif Weithredwr, a Claire Maimone, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot (NPTHomes); Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Mike Halloran - Rheolwr Tai, Tai Wales & West ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.
4.2 Cytunodd Steve Porter i anfon manylion am faint o'r 200 o gartrefi sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely, a'r hyn y mae hynny'n cyfateb iddo fel canran y tai y mae Tai Wales & West yn eu hadeiladu ar hyn o bryd. Hefyd, faint o'r 1000 o gartrefi arfaethedig sydd i'w hadeiladu yn ystod y pum mlynedd nesaf fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely.
4.3 Cytunodd Jim McKirdle i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· polisi'r awdurdodau lleol ar gyfer trosglwyddo tai pan fydd gan denant ôl-ddyledion tai. Pan oedd yr aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd am gael gweld copi o'r cytundeb Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
· pa ddau awdurdod lleol sydd heb ymrwymo i'r cytundeb.
· un ar ddeg awdurdod lleol sydd â chynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol gan gynnwys y nifer arfaethedig o dai y maent yn dymuno eu hadeiladu.
· ffigurau ynglŷn â nifer y tenantiaid ag anableddau sydd wedi cael eu heffeithio a'u hail-leoli o ganlyniad i'r polisi.
· a yw awdurdodau lleol yn ystyried Lwfans Byw i'r Anabl wrth ystyried Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft yn amodol ar newid ar ddiwedd paragraff 2.